Angen gofalwyr maeth ar gyfer merch yn ei harddegau (o'r Haf/Hydref 2025)

  • img Sir Gaerfyrddin
  • amount Lwfans Maethu Misol
  • time Hirdymor

Rydym yn chwilio am deulu cefnogol a meithringar i ddarparu cartref diogel a sefydlog i ferch yn ei harddegau sy'n barod i drosglwyddo o gartref gofal preswyl i amgylchedd teuluol.

Bydd cyfnod cyflwyno yn cael ei gynllunio'n ofalus i sicrhau trosglwyddiad hwylus a chefnogol, gydag arweiniad parhaus yn cael ei ddarparu.

Mae'r person ifanc hwn yn ffynnu wrth gael strwythur ac wrth wybod beth i’w ddisgwyl. Mae hi'n mwynhau treulio amser gydag eraill, sgwrsio, a chymryd rhan mewn nosweithiau pampro. Mae hi eisiau gwneud y byd yn lle gwell, i bawb fod yn iawn, ac i gael rhywle ble y gall deimlo'n gartrefol.

Beth rydym yn chwilio amdano mewn teulu:

  • Yn ddelfrydol, cwpl sy’n gallu bod yn esiampl dda o ran perthnasoedd iach.
  • Cartref heb ddim mwy nag un plentyn arall, yn ddelfrydol yn iau na hi.
  • Amgylchedd cefnogol lle gall brofi normalrwydd bywyd teuluol.

Bydd angen cyfleoedd arni i archwilio, profi lleoedd newydd, ac yn raddol feithrin hyder mewn amgylcheddau prysurach. Rydym hefyd yn awyddus i annog a chefnogi amser teuluol gyda'i brodyr a chwiorydd i gynnal eu perthynas.

Os credwch fod gennych yr amynedd, empathi ac ymrwymiad i ddarparu cartref meithringar, rydym am glywed gennych.

This document is available in Welsh / Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg